Loomio

Sefyll mewn Etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn ceisio deall y rhwystrau a'r cymhellion sy’n wynebu pobl wrth benderfynu i sefyll ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n cael ei gynnal ar ran Bwrdd Taliadau annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rydym am ddarganfod os yw pobl yn cael eu hannog neu eu rhwystro rhag sefyll mewn etholiad i'r Cynulliad Cenedlaethol a beth a ellir ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r materion hynny. Yn ogystal â pobl sydd â phrofiad gwleidyddol, rydym hefyd am glywed gan bobl sydd â diddordeb i ymgymryd â swydd etholedig ond, am ba bynnag reswm, heb wneud hynny eto.

Mae Loomio yn rhoi cyfle i bobl bostio sylwadau ac awgrymiadau wrth i'r ymchwil ddatblygu. Bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio'r safle er mwyn denu ymateb i gynigion gwahanol ac i hybu trafodaeth ynglŷn â gwahanol agweddau a all fod yn rhwystrau i sefyll ar hyn o bryd, ynghyd â chymhellion posibl ar gyfer sefyll mewn etholiadau yn y dyfodol.

Mae croeso i chi ddefnyddio'r wefan drwy ddefnyddio enw defnyddiwr anhysbys. Bydd unrhyw sylwadau sy'n cael eu defnyddio yn yr adroddiad terfynol yn cael eu gwneud yn ddienw. Gofynnwn eich bod yn parchu sylwadau a barn aelodau eraill o'r grŵp ac mae'r canolwyr yn cadw'r hawl i ddileu unrhyw sylwadau ymosodol neu amhriodol a gwahardd aelodau pe bai angen.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Canolfan Llywodraethiant Cymru yma.