Loomio

National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru

We want to know what you think about some of the biggest challenges facing Wales today.

The National Assembly for Wales is made up of Assembly Members from across Wales.

Our job is to try and make sure that decisions made by the Welsh Government on things like health, education and the environment are in the best interests of Wales and its people.

From looking at the budget, to the ideas for laws the policies they set, we challenge the Welsh Government when we think improvements or changes need to be made.

Loomio online discussions are set by Assembly Committees.

Assembly Committees are small groups of Assembly Members from across Wales who represent the different political parties. Their job is to try and make sure that decisions made by the Welsh Government within their subject areas are in the best interests of Wales and its people. From Health, Social Care and Sport to Climate Change, Agriculture and Rural Affairs, Assembly Committees challenge Welsh Government ideas for laws and policies by putting forward their recommendations for change.

To help us understand how well the Welsh Government is doing its job we need you to share your ideas.

Take a look at our Subgroups , tell us what you think, and share any ideas you may have for how things could be improved. Your ideas will be seen by Assembly Members, and our committees. When an online discussion closes, we will feed back to all who have shared their ideas to let them know what action is being taken.

Together in the interests of Wales and its people, we can help solve the biggest challenges facing Wales today.

Cymraeg

Rydym am wybod beth yw eich barn chi ar rai o'r heriau mwyaf y mae Cymru yn eu hwynebu heddiw.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnwys Aelodau o bob rhan o Gymru.

Ein rôl yw ceisio sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth Cymru ym meysydd fel iechyd, addysg a’r amgylchedd yn cael eu gwneud er budd pennaf Cymru a’i phobl.

Rydym yn craffu ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’i syniadau ar gyfer cyfreithiau a’r polisïau y mae’n ei phennu, ac rydym yn herio’r Llywodraeth pan fyddwn o’r farn bod angen gwneud gwelliannau neu newidiadau.

Mae trafodaethau ar-lein Loomio yn cael eu pennu gan Bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae Pwyllgorau’r Cynulliad yn grwpiau bychain o Aelodau Cynulliad o bob rhan o Gymru sy’n cynrychioli’r pleidiau gwleidyddol gwahanol. Eu rôl yw ceisio sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth Cymru o fewn eu meysydd pwnc yn cael eu gwneud er budd pennaf Cymru a’i phobl. Mae Pwyllgorau’r Cynulliad yn herio cynigion deddfwriaethol a pholisïau Llywodraeth Cymru ym meysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon, yn ogystal â newid hinsawdd, yr amgylchedd a materion gwledig, a hynny drwy argymell newidiadau.

O ran deall pa mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith, gallwch chi roi help llaw inni drwy rannu eich sylwadau â ni.

Edrychwch ar ein trafodaethau a rhannwch eich barn amdanynt, yn ogystal ag unrhyw syniadau sydd gennych ynghylch eu gwella. Bydd Aelodau’r Cynulliad a’r pwyllgorau yn gweld eich sylwadau. Pan fydd her benodol yn cau, byddwn yn bwydo’r wybodaeth berthnasol yn ôl i’r bobl a rannodd eu sylwadau er mwyn rhoi gwybod iddynt ba gamau a gaiff eu cymryd.

Drwy weithio gyda’n gilydd er budd Cymru a’i phobl, gallwn ddatrys yr heriau mwyaf y mae Cymru’n eu hwynebu heddiw.