Loomio

National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfraith ddrafft, sy’n cael ei alw yn Fil.

Nod Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yw gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.

Mae’r Bil yn ceisio’i gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt – anifail nad yw fel arfer wedi’i ddomestigeiddio yn Ynysoedd Prydain – mewn syrcas deithiol.

Felly beth yw ystyr “defnyddio” anifail gwyllt?

Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw’r anifail yn perfformio neu’n cael ei arddangos.

Ni fydd y Bil yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid wedi’u domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac yn atal defnyddio anifeiliaid gwyllt ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill.

Pam ein bod am glywed gennych chi

Rydym yn deall bod gan bobl farn gref dros ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, a dyna pam bod Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol eisiau clywed gennych chi.

Rôl y Pwyllgor yn y cam cyntaf hwn yw ystyried a oes angen cyfraith newydd yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth, sy’n cynnwys y safbwyntiau sy’n cael eu rhannu ar y bwrdd trafod hwn, cyn ysgrifennu adroddiad i ddweud a yw’n cytuno â phrif amcanion y Bil ac os felly, awgrymu ffyrdd y gellid ei wella.