Tue 23 Jul 2019 10:53AM
Sut i ddefnyddio Loomio a chymryd rhan yn y drafodaeth
SeneddRhysJ
Public
Seen by 145
Croeso i Loomio, sef man ar-lein lle gallwch rannu eich barn a'ch syniadau am ymchwiliadau Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dyma enghraifft o edefyn (thread). Gallwch ychwanegu sylwadau isod. Sgwrs ar bwnc penodol yw edefyn. Mae'r edefyn hwn yn ymwneud â sut mae Loomio yn gweithio, felly gallwch bostio cwestiynau am hynny yma.
I ddechrau arni â Loomio:
- Uwchlwythwch lun proffil
- Postiwch eich barn a'ch syniadau o dan y cwestiynau o dan open threads’ yn yr is-grwpiau unigol ar ochr dde'r dudalen (ond noder nad oes rhaid i chi ateb pob cwestiwn). Cyngor ar gyfer postio ar Loomio:
- I hysbysu person penodol, teipiwch @ ac yna ei enw.
- Cliciwch yr eicon clip papur i ychwanegu atodiadau.
Os hoffech aros yn ddienw, gofynnwn yn garedig i chi beidio â chynnwys unrhyw wybodaeth yn eich swydd a fyddai'n eich adnabod.
Fodd bynnag, byddem yn ddiolchgar pe baech yn darparu eich oedran a'ch lleoliad ar gyfer cyd-destun.
Os oes gennych gwestiynau, edrychwch yn llawlyfr cymorth Loomio.