Loomio

Ydych chi’n credu y dylai hi fod yn drosedd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol? Os felly, pam?

S SeneddRhysJ Public Seen by 165
TT

Talulah Thomas Wed 4 Sep 2019 12:05PM

Yndi, mon drosedd sy'n anghredadwy i mi ei fod hi dal yn cael ei gofleidio heddiw. Mae'r cysyniad o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt fel modd o adloniant teuluol yn hollol anerbynniol, anaturiol a di-bwynt. Dylai anifeiliaid gael yr hawl i fyw mewn amgylchedd diogel a rhydd. Mae'r ffenomemon o syrcasau teithiol ar drai, felly dylai defnyddio anifeiliaid gwyllt cael ei ddiweddu hefyd.

L

Lleucu Wed 4 Sep 2019 6:36PM

Dylai fod yn drosedd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, maen nhw’n haeddi bod allan yn eu cynefin nhw yn byw eu bywydau naturiol lle dylen nhw fod. Dydyn nhw ddim wedi’r arfer o’r fath awyrgylch a ni ac er mwyn iddynt fod, maent yn cael eu camdrin a’i “hyfforddi” hynny yw cyfylyrru i berfformio triciau anaturiol sydd yn groes i’w greddf a dim ond er mwyn ein diddanu ni, mae hyn yn greulon!